Llwybrau i Lesiant

Rhoi cerdded wrth galon cymunedau

Mae’r prosiect Llwybrau i Lesiant yn rhoi'r offer a'r hyfforddiant i 18 cymuned ar draws Cymru i wella natur a mynediad at gerdded yn eu hardaloedd lleol!

Gwella mynediad i natur yng Nghymru

Mae prosiect Llwybrau i Lesiant gan Ramblers Cymru yn enghraifft wych o sut mae'r Ramblers yn agor y ffordd i bawb fwynhau pleserau syml cerdded ym myd natur. Mae'r prosiect yn rhoi cerdded wrth galon 18 o gymunedau ledled Cymru drwy roi'r offer a'r hyfforddiant iddynt wella natur a mynediad at gerdded yn eu hardaloedd lleol.

Rydym yn rhoi'r offer a'r hyfforddiant rhad ac am ddim sydd eu hangen ar y cymunedau dethol i nodi a dylunio llwybrau cerdded newydd ac i wella llwybrau cyfredol.

Ynghyd â 22 o awdurdodau lleol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru a Coed Cadw, rydym hefyd yn gwella'r amgylchedd lleol er mwyn i natur i ffynnu. Gyda gweithgareddau fel plannu coed, hau blodau gwyllt a dyddiau gweithgareddau bywyd gwyllt, bydd digon o weithgareddau i bobl o bob oed a chefndir.

Dan arweiniad y gymuned, i'r gymuned

Mae Ramblers Cymru yn credu, trwy weithio ochr yn ochr â chymunedau i ymgysylltu â’u rhwydwaith llwybrau lleol a mannau gwyrdd, gyda’n gilydd gallwn greu cyfleoedd cerdded cynaliadwy i bawb. Yn y pen draw, bydd hyn yn cysylltu pobl â manteision iechyd a lles natur a cherdded.

Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol ac aelodau'r gymuned i gyflawni eu hanghenion cymunedol. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn ennill sgiliau newydd gyda chymorth ac arweiniad arbenigol gan Ramblers Cymru a'n partneriaid.